Gorffennaf 2016

 

Annwyl Gyfaill

 

Ymchwiliad i waith ieuenctid

 

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i waith ieuenctid.

 

Nod cyffredinol yr ymchwiliad ‘ciplun’ hwn yw adolygu effeithiolrwydd strategaeth a pholisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gwaith ieuenctid. Er mwyn cynorthwyo ei ymchwiliad, byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar unrhyw un neu’r holl bwyntiau a ganlyn:

 

§  mynediad pobl ifanc i wasanaethau gwaith ieuenctid, er enghraifft:

 

o   Lefelau’r ddarpariaeth ledled Cymru ac unrhyw amrywiadau rhanbarthol;

o   Materion yn ymwneud â mynediad ar gyfer grwpiau penodol o ifanc pobl, er enghraifft, o ran iaith, anabledd, natur wledig, ethnigrwydd.

 

§  Pa mor effeithiol yw polisi a strategaeth gwaith ieuenctid Llywodraeth Cymru, er enghraifft:

 

o   Polisi a strategaeth gwaith ieuenctid penodol Llywodraeth Cymru, fel ‘y cynnig o ran Gwaith ieuenctid’; Siarter Gwaith Ieuenctid Cymru; Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol Cymru 2014 i 2018;

o   Cyfrifoldebau adrannau Llywodraeth Cymru ac a oes dull cydlynol ar draws adrannau i gefnogi’r broses o ddarparu gwaith ieuenctid.

 

 

 

 

 

§  Cyllid ar gyfer gwaith ieuenctid (awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, Ewrop, y trydydd sector).

 

 

§  Unrhyw faterion eraill sydd, yn eich barn chi, yn berthnasol i’r ymchwiliad (Er enghraifft: materion gweithlu; y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru; adeiladau a seilwaith; gwaith ieuenctid mewn ysgolion; materion trafnidiaeth; mynediad i dechnoleg ddigidol; ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion i gofrestru ac arolygu rhai lleoliadau addysg y tu allan i’r ysgol.)

 

[Noder: Nid yw’r ymchwiliad hwn yn ceisio tystiolaeth ynghylch strwythurau cyfranogiad ieuenctid lleol a chenedlaethol, sy’n fater pwysig ym marn y Pwyllgor a fydd yn gofyn ystyriaeth bellach yn ei raglen waith.]

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

 

Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gynorthwyo’r ymchwiliad.  Mae’r Atodiad yn rhoi gwybodaeth gyffredinol am weithdrefnau’r ymgynghoriad, a dylid ystyried y rhain yn ofalus cyn cyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor. Yn benodol, byddem yn croesawu eich sylwadau ar y cwestiynau a restrir ar y ffurflen atodedig. Dylech ddefnyddio’r ffurflen i gyflwyno eich tystiolaeth.

 

Yn ychwanegol at yr alwad gyffredinol am dystiolaeth, bydd ymgynghoriad ar wahân, sydd â’r nod o gasglu barn pobl ifanc, yn cael ei ddosbarthu dros yr haf.

 

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Marc Wyn Jones, Clerc y Pwyllgor, ar 0300 200 6565.

 

Yn gywir 

Lynne Neagle AC / AM
Cadeirydd / Chair

 


 

Atodiad

Cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor

Datgelu gwybodaeth

1.  Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth ar gael yma; gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor. Fel arall, mae copi caled o’r polisi hwn ar gael drwy gysylltu â’r Clerc.

Cyflwyno tystiolaeth

2.  Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o’ch ffurflen i SeneddCYPE@cynulliad.cymru

Fel arall, gallwch ei hanfon at:

Sarah Bartlett, Dirprwy Glerc,
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA.

3.  Dylai ymatebion gyrraedd erbyn 9 Medi 2016.  Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion sy’n dod i law ar ôl y dyddiad hwn.

4.  Wrth baratoi eich tystiolaeth, cadwch y canlynol mewn cof:

 

Canllawiau ar gyfer tystion sy’n darparu tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgorau

5.  Mae’r Cynulliad yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf bosibl.  Diben y canllaw byr hwn yw cynorthwyo tystion sy’n cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgorau.  Bydd hyn yn galluogi’r Cynulliad i ddarparu gwybodaeth a gyflwynwyd gan eraill mewn modd hygyrch.

 

 

·                     Defnyddiwch Gymraeg a Saesneg clir gan osgoi jargon diangen.

·                     Defnyddiwch ffont sydd o leiaf maint 12.

·                     Defnyddiwch Lucida Sans, sy’n ffont glir sans-seriff. 

·                     Peidiwch ag ysgrifennu testun dros luniau, graffeg neu ddyfrnodau.

·                     Lliwiau a chyferbyniad - dylai’r ysgrifen gyferbynnu gymaint â phosibl â’r cefndir: ysgrifen dywyll ar gefndir golau, ac ysgrifen olau ar gefndir tywyll.

·                     Peidiwch â defnyddio priflythrennau bloc, a cheisiwch osgoi defnyddio print trwm, print italig a thanlinellu.

·                     Os ydych yn cyfeirio at ddogfen sydd wedi’i chyhoeddi, rhowch hyperlinc at y ddogfen honno.

 

6.  Pryd bynnag y bo modd, dylid darparu gwybodaeth gan ddefnyddio Microsoft Word (ac ar y ffurflen a ddarperir) er mwyn sicrhau ei bod yn hygyrch.  Pan fyddwch chi’n cyflwyno sgan neu PDF, yn enwedig pan fyddant yn llythyrau wedi’u llofnodi neu’n dablau o wybodaeth, dylech gyflwyno’r ddogfen Word wreiddiol gyda hi.

Cyffredinol

7.  Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan y rhai sydd â buddiant yn y pwnc hwn.  Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.  Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnir i sefydliadau sydd â pholisïau neu gynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus.

8.  Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ysgrifenedig ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar ar ddyddiadau penodol.

9.  Er gwybodaeth, mae’r Pwyllgor wedi gwahodd amrywiaeth eang o sefydliadau i roi sylwadau; mae rhestr o’r rhain ar gael ar gais.  Mae copi o’r llythyr hwn hefyd wedi’i roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.  Fodd bynnag, byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr ymgynghori a’r Atodiad at unrhyw unigolyn neu sefydliad y credwch yr hoffai gyfrannu at yr ymchwiliad.